SL(5)451 – Rheoliadau Hadau (Diwygio etc) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019

Cefndir a Diben

Mae Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC (“y Gyfarwyddeb Ffrwythau”) yn rhagnodi safonau marchnata ar gyfer deunyddiau lluosogi planhigion ffrwythau er mwyn sicrhau’r safonau gofynnol o ran eu hansawdd a’r gallu i’w olrhain. Mae'r Gyfarwyddeb Ffrwythau yn caniatáu i Aelod-wladwriaeth awdurdodi, mewn perthynas â'u tiriogaeth, marchnata deunyddiau planhigion ffrwythau a gynhyrchir mewn gwledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd os yw’r Aelod-wladwriaeth honno o'r farn bod ganddynt safonau cynhyrchu cyfatebol. Roedd cyfyngiad amser i’r ddarpariaeth hon a chafodd ei throsi gan Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunydd Lluosogi (Cymru) 2017. Cafodd y cyfyngiad hwnnw ei ymestyn i 31 Rhagfyr 2022 gan Benderfyniad y Comisiwn (EU) 2019/120. Mae'r offeryn hwn yn darparu ar gyfer ymestyn amserlen yr UE sy'n ymwneud â'r Gyfarwyddeb Ffrwythau ac yn gwneud diwygiadau i ymdrin â diffygion yn ymwneud â chyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd pan fyddwn yn ymadael â hi.

Mae'r offeryn hwn yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i Reoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn wedi’i gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972  ac mae Rhan 3 o'r offeryn hwn wedi’i gwneud drwy arfer y pwerau ym mharagraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (“Deddf 2018”). Daw Rhan 3 o’r offeryn hwn i rym yn union cyn y “diwrnod ymadael”, sef 31 Hydref 2019 am 11.00 pm.

Gweithdrefn

Cadarnhaol.

Craffu Technegol

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Roedd yr adroddiad gwreiddiol ar y broses sifftio ar gyfer yr offeryn hwn yn argymell y dylid defnyddio'r weithdrefn gadarnhaol yn unol â'r meini prawf a nodir yn Rheol Sefydlog 21.3C. Nododd yr adroddiad hwnnw hefyd:

“Fel a nodir uchod, ymestynnodd Penderfyniad y Comisiwn yr awdurdod ar gyfer yr awdurdodi i 31 Rhagfyr 2022.   Mae’r Rheoliadau presennol yn dileu y terfyn amser (31 Rhagfyr 2018) yn rheoliad 5(4) o’r Rheoliadau Marchnata yn hytrach na’i ddisodli gyda’r dyddiad newydd. Nid yw felly’n gweithredu deddfwriaeth yr UE yn briodol.

Efallai na fydd y dyddiad hwnnw’n berthnasol os na fydd Cymru’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd erbyn hynny.  Os felly, gallai rheoliad 3 (a ddaw i rym yn union cyn ymadael) fod wedi gwneud newid priodol. Gan mai diben adran 2(2) of Ddeddf 1972, y dibynnir arno ar gyfer rheoliad 2, yw rhoi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar waith, dylid gwneud hynny mewn ffordd sy’n gywir ar y dyddiad y gwneir y ddeddfwriaeth gweithredu."

Rydym yn falch o nodi bod y weithdrefn wedi newid o ganlyniad i’r adroddiad ar y broses sifftio.  Nodwn hefyd, yn groes i'r adroddiad hwnnw, fod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â chynnwys y terfyn amser newydd yn y Rheoliadau fel y nodir ym Mhenderfyniad Gweithredu'r Comisiwn (EU) 2019/120. Mae’r sail resymegol dros ei hepgor wedi’i nodi ym mharagraff 2.5 o'r Memorandwm Esboniadol.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd

Ac eithrio'r goblygiadau a nodir uchod, ni nodir unrhyw oblygiadau eraill i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Hydref 2019